Yr Wyddgrug yn ei Blodau

Mae Cyngor Tref yr Wyddgrug yn helpu gwella golwg y dref trwy arddangosfeydd blodeuol gyda chystadleuaeth flynyddol boblogaidd ‘Yr Wyddgrug yn ei Blodau’.

Nod y gystadleuaeth yw cydnabod a gwobrwyo’r trigolion a busnesau hynny y daw eu harddangosfeydd blodeuol â fflach o liw i’r Wyddgrug gan ei wneud y dref yn fan mwy deniadol i drigolion eraill ac ymwelwyr.

Mae gwobrau o £60 a £30 ymhob un o’r categorïau:

  • Basgedi crog, bocsys ffenestr a/neu gynwysyddion
  • Eiddo busnes lle mae arddangosfa sy’n gwella golwg y stryd
  • Yr ardd lysiau fwyaf trwsiadus
  • Yr ardd flaen fwyaf trwsiadus

Mae gwobrau Beirniaid hefyd sy’n cael eu dyfarnu am y canlynol:

  • Deiliaid tai unigol sy’n gallu dangos blaengaredd gyda’u harddangosfa
  • Busnesau unigol sy’n gwella’u cynefin

Cysylltwch â Chyngor Tref yr Wyddgrug 01352 758532 neu e-bostio supportofficer@moldtowncouncil.org.uk i gael rhagor o wybodaeth a ffurflen gais.

Noddi arddangosfa flodeuol
Gallwch gynorthwyo cynyddu nifer yr arddangosfeydd blodeuol yn yr Wyddgrug trwy noddi basged grog neu gafn planedig. Fe all busnesau a thrigolion yr Wyddgrug helpu Cyngor Tref yr Wyddgrug hybu’r cynllun a gwneud gwahaniaeth go iawn i olwg yr Wyddgrug.

Bydd cyfraniadau ariannol holl noddwyr yn cael ei gofnodi ar blac enw.

I weld sut allwch noddi arddangosfa flodeuol neu fasged grog, cysylltwch â Samantha Roberts, Clerc Cyngor Tref yr Wyddgrug, Neuadd y Dref, Ffordd yr Iarll, Yr Wyddgrug
Ffôn: 01352 758532

Arddangosfeydd blodeuol
Cyngor Sir y Fflint sy’n gyfrifol am lawer o’r gwelyau blodau a dysglau plannu lliwgar yn yr Wyddgrug a thorri gwair ar ffyrdd y Dref a’r cylch.

Arhosodd yr un nifer o fasgedi crog yng nghanol tref yr Wyddgrug, sy’n cael eu darparu a’u cynnal gan Gyngor y Dref, gyda 100 o gwmpas Canol y Dref. Mae basgedi newydd yng Nghanolfan Siopa Daniel Owen, ar y Stryd Fawr a’r llwybr sy’n arwain at y Stryd Fawr o faes parcio Griffiths Square. Mae chwech o fasgedi rhwystr hefyd yn Heol y Brenin.

Y Dref Fwyaf Trwsiadus yn Sir y Fflint
O ganlyniad i waith caled Cyngor Tref yr Wyddgrug a Chyngor Sir y Fflint, daeth yr Wyddgrug yn gyntaf yng nghategori’r Canol Tref Fwyaf Trwsiadus (gyda phoblogaeth dros 5000) yng Ngwobrau Amgylcheddol Cyngor Sir y Fflint yn 2015, 2014 a 2012.