Gwaith y Cyngor

Nodau Cyngor Tref yr Wyddgrug

  • Hyrwyddo a chynrychioli barn ac uchelgeisiau’r gymuned yn lleol, sirol, rhanbarthol a chenedlaethol
  • Gwasanaethu’r rhai sy’n byw ac yn gweithio yn yr Wyddgrug a’r rhai sy’n ymweld â’r dref
  • Hyrwyddo’r Wyddgrug fel lle i fyw, gweithio, buddsoddi ac ymweld
  • Darparu gwasanaethau effeithiol ac effeithlon sy’n rhoi gwerth am yr arian a gwella’r gwasanaethau hynny yn ôl yr angen
  • Ymdrechu i wella ansawdd bywyd holl drigolion yr Wyddgrug

Er mwyn taro’r nodau hyn, mae Cyngor Tref yr Wyddgrug wedi cytuno ar yr amcanion canlynol

  • Ymgynghori â’r gymuned i benderfynu ar ei uchelgeisiau at y dyfodol
  • Hyrwyddo bywiogrwydd a hyfywedd yr Wyddgrug
  • Hybu, a chyfranogi mewn, gwaith partneriaeth ac asiantaeth gyda’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i gyflawni gwasanaethau o safon ymhob maes er lles yr Wyddgrug a’i thrigolion ac ymwelwyr
  • Hyrwyddo polisïau cynaliadwy sy’n ymdrechu i wella’r amgylchedd er mwyn diwallu anghenion trigolion ac ymwelwyr heddiw a’r dyfodol
  • Cynorthwyo creu cymuned ofalgar a chynhwysol yn gymdeithasol sy’n cynnwys holl drigolion ac sy’n ceisio datblygu eu ffyniant, gwybodaeth a dealltwriaeth a chydweithrediad pawb
  • Ymdrechu i gael amgylchedd dymunol, glân a diogel
  • Cyflenwi gwasanaethau o safon sy’n rhoi gwerth am yr arian ac adolygu’r gwasanaethau hynny’n rheolaidd
  • Cefnogi grwpiau gwirfoddol lleol sy’n ceisio cynorthwyo trigolion ac ymwelwyr â’r Wyddgrug

Pwyllgorau

I gynorthwyo rheoli busnes Cyngor Tref yr Wyddgrug sefydlwyd pump o bwyllgorau. Mae gan bwyllgorau’r Fynwent, Cynllunio a Thwristiaeth bwerau dirprwyedig i weithredu heb gyfeirio at Gyngor y Dref. Mae penderfyniadau’r Is-bwyllgor Archwiliadau a’r pwyllgor Personél yn gorfod cael cydsyniad Cyngor y Dref cyn bod modd eu gweithredu.

Yr Is-bwyllgor Polisi ac Archwiliadau – sy’n gyfrifol am adolygu adroddiadau’r Archwilwyr Mewnol ac Allanol ac ystyried polisïau ariannol ac eraill Cyngor y Dref.

Pwyllgor y Fynwent – sydd â phwerau dirprwyedig i reoli Mynwent yr Wyddgrug a phennu polisïau claddu Cyngor Tref yr Wyddgrug.

Y Pwyllgor Personél – sy’n gyfrifol am ystyried materion personél a chyflwyno adroddiadau i Gyngor y Dref.

Y Pwyllgor Cynllunio – mae gan bwerau dirprwyedig i ymateb i geisiadau cynllunio sy’n codi rhwng cyfarfodydd Cyngor y Dref.

Pwyllgor y Gymuned, Datblygu ac Adfywio – sydd â phwerau dirprwyedig i ddelio â materion fel cystadleuaeth Yr Wyddgrug yn ei Blodau, darparu basgedi crog ac arddangosfeydd blodeuol a materion eraill yn ymwneud ag amgylchedd a delwedd y dref.

Pwyllgor Cittaslow Yr Wyddgrug – sydd â chyfrifoldeb dros ddilyn y cynlluniau gweithredu i wella ansawdd bywyd trigolion, masnachwyr ac ymwelwyr. Mae holl aelodau Cyngor y Dref yn cefnogi Cittaslow Yr Wyddgrug.

Y Panel Adolygu Cymorth Ariannol – sydd â chyfrifoldeb dros benderfynu a yw ceisiadau am gymorth ariannol yn cyrraedd meini prawf y Cyngor.

Panel Gwobrau Cymunedol – sydd â chyfrifoldeb dros adolygu enwebiadau Cyngor y Dref ar gyfer ‘Gwobrau Cymunedol Sid Matthews’ a gwneud argymhellion.

Aelodau Pwyllgor Cyngor Ieuenctid a Phlant yw’r Maer, y Dirprwy Faer a’r .

Yn rhinwedd eu swyddi mae’r Maer a’r Dirprwy Faer yn aelodau o Bwyllgor y Fynwent, y Pwyllgor Datblygu ac Adfywio Cymunedol a’r Pwyllgor Cynllunio.

Sefydliadau ac ysgolion
Mae Cynghorwyr Tref yr Wyddgrug yn cynrychioli Cyngor y Dref yn y sefydliadau ac ysgolion lleol canlynol:

Pwyllgor Cyswllt Alyn Works 
Cymdeithas Gymunedol Daniel Owen

Pwyllgor Grosvenor Hall (Clwb Darby & Joan yr Wyddgrug) 
Pwyllgor Rheoli Band Cyngerdd Tref yr Wyddgrug 
Un Llais i Gymru 
Pwyllgor Rheoli Parkfields 
Yr Heddlu a’r Gymuned / Cynghorwyr Sir   

Cyrff Llywodraethol Ysgolion
Ysgol Gynradd Gatholig Dewi Sant 
Ysgol Bryn Coch 
Ysgol Bryn Gwalia