Partneriaeth Tref yr Wyddgrug

Ffurfiwyd Partneriaeth Tref yr Wyddgrug, sy’n cael ei ariannu gan Gyngor Tref yr Wyddgrug, yn 2000 gan amrywiaeth eang o fusnesau a sefydliadau’r sectorau preifat a chyhoeddus sy’n rhannu diddordeb cyffredin mewn sicrhau ffyniant economaidd yr Wyddgrug.

Mae aelodau’r Bartneriaeth yn cynnwys Cynghorau’r Dref a’r Sir, Fforwm Busnes yr Wyddgrug a sefydliadau lleol eraill sy’n cydweithredu i sicrhau a dylanwadu ar ddatblygiadau, gweithgareddau a mentrau rhagweithiol yn y dref.

Caiff gweithgareddau’r Bartneriaeth eu cydgysylltu gan Reolwr Canol y Dref sy’n un o gyflogeion Cyngor y Dref ac sy’n gweithio o Neuadd Tref yr Wyddgrug.

Mae modd cysylltu â’r Bartneriaeth yn: Ffôn: 01352 751819 E-bost: towncentremanager@moldtowncouncil.org.uk