Cyngor y Dref

 

Crëwyd Cyngor Tref yr Wyddgrug yn 1974 yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol a diddymu Cyngor Dosbarth Trefol yr Wyddgrug. Mae’n un o 34 o gynghorau tref a chymuned yn Sir y Fflint.

Yr Wyddgrug yw prif dref Sir y Fflint. Daeth Cyngor Sir y Fflint yn awdurdod unedol ar ôl ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru yn 1996.

Poblogaeth yr Wyddgrug yw 9,700 ac, at ddibenion llywodraeth leol, rhannwyd y dref yn bedair ward etholiadol, Broncoed yr Wyddgrug, Dwyrain yr Wyddgrug, De’r Wyddgrug a Gorllewin yr Wyddgrug, gyda phedwar o gynghorwyr tref yn cynrychioli pob ward.

Yn ei gyfarfod blynyddol, sy’n cael ei gynnal ym mis Mai bob blwyddyn, bydd y Cyngor yn ethol Maer y Dref a Dirprwy Faer y Dref.

Mae Maer y Dref yn derbyn lwfans o £600 y flwyddyn i dalu’r costau cysylltiedig â chyflawni dyletswyddau dinesig. Nid yw unrhyw gynghorwyr eraill yn derbyn taliadau.

Bydd Cyngor Tref yr Wyddgrug yn cyfarfod bob mis, fel arfer ar ddydd Mercher olaf y mis. Nid oes unrhyw gyfarfodydd ym mis Awst a mis Rhagfyr.

Mae gan y cyhoedd hawl i fynychu cyfarfodydd misol Cyngor y Dref sy’n cael eu cynnal fel arfer ar nos Fercher olaf y mis. Mae dyddiadau cyfarfodydd y Cyngor i’w gweld ar y wefan hon.

Bydd yr agenda ar gyfer y cyfarfod nesaf yn cael ei arddangos ar y bwrdd hysbysiadau yn Neuadd y Dref ac yma ar wefan y Cyngor. Mae’r Cyngor yn gobeithio y bydd gymaint o’r cyhoedd ag y bo modd yn manteisio ar y cyfle i fynychu.

Mae cyfle i drigolion yr Wyddgrug siarad yn ystod sesiwn 15 munud yn union cyn cyfarfodydd Cyngor y Dref. Caniateir uchafswm o 5 munud yr un neu ar gyfer pwnc (os bydd mwy nag un yn dymuno siarad ar un mater).

Rhaid i bawb sydd am siarad yng nghyfarfod y Cyngor roi rhybudd o hynny i’r Clerc erbyn 4.30pm ar y dydd Mawrth cyn y cyfarfod. Mae rhagor o fanylion am hyn neu unrhyw agwedd ar fusnes y Cyngor i’w cael o’r swyddfa ar lawr cyntaf Neuadd y Dref.