Grantiau i Grwpiau Lleol

Mae Cyngor Tref yr Wyddgrug yn rhoi grantiau i grwpiau gwirfoddol neu elusennol lleol seiliedig a/neu’n gweithio yn yr Wyddgrug a hefyd i grwpiau elusennol rhanbarthol neu genedlaethol sy’n gwneud gwaith yn y Dref neu’n rhoi cymorth i drigolion yr Wyddgrug.

Y rhagdybiaeth gyffredinol yw y dylai gwaith y grwp fanteisio rhai neu holl drigolion yr Wyddgrug. Mae gan y Cyngor hawl i roi cymorth grant ariannol yn unol ag Adran 137 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Bydd Cyngor Tref yr Wyddgrug yn ystyried ceisiadau yn ei gyfarfodydd ym mis Ionawr a mis Mehefin bob blwyddyn ac, fel arfer, mae’n clustnodi swm o £3,000 i’w ddosbarthu.

Ar gyfer beth mae’r grantiau?
Rhoddir y canllawiau canlynol i helpu grwpiau benderfynu a ydynt yn gymwys i gael cymorth. Gall grwpiau wneud cais am grantiau i dalu’r canlynol:

  1. Costau cyfalaf, neu gyfraniad tuag at gostau, unrhyw offer newydd neu gyfnewid a allai fod ei angen i gynorthwyo’r grwp yn ei weithgareddau
  2. Costau, neu gyfraniad tuag at gostau, cysylltiedig â chyflwyno achlysur, cyngerdd, perfformiad neu weithgaredd penodol a gynhyrchwyd gan grwp lleol
  3. Costau cysylltiedig â sefydlu grwp gwirfoddol neu elusennol lleol newydd.

Yn ogystal, bydd Cyngor Tref yr Wyddgrug yn ystyried ceisiadau am grantiau tuag at gostau cynnal cyffredinol unrhyw grwp. Bydd Cyngor y Dref yn ystyried ymrwymo i gyfrannu at y costau cynnal cyffredinol hyn am hyd at dair blynedd. Ni fydd y ceisiadau hyn yn cael ei ystyried heblaw yng nghyfarfod Cyngor y Dref ym mis Ionawr.

Sut mae’r cynllun yn gweithio
Cysylltwch â chlerc y dref
townclerk@moldtowncouncil.org.uk i ofyn am ffurflen gais am grant neu cliciwch yma i gael fersiwn electronig (PDF). Rhaid dychwelyd ffurflenni naill ai erbyn diwedd Rhagfyr neu ddiwedd Mai bob blwyddyn.

Bydd grwp o gynghorwyr yn ystyried holl geisiadau i sicrhau eu bod yn cyrraedd y meini prawf ar gyfer cymorth cyn cyflwyno adroddiad i Gyngor Tref yr Wyddgrug.

Bydd Cyngor Tref yr Wyddgrug yn gwneud y penderfyniad terfynol ar ddyfarnu grant yn ei gyfarfodydd ym mis Ionawr a mis Mehefin bob blwyddyn.