Hysbysrwydd Cymunedol

COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 - ADRANNAU 55(2) ADOLYGIAD O FFINIAU CYMUNEDAU SIR Y FFLINT 

Yn dilyn adolygiad o ffiniau Cymunedau yn Sir y Fflint gan Gyngor Sir y Fflint, mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru wedi cyflwyno cynigion i Lywodraeth Cymru.

Mae copïau o’r adroddiad ar gael i’w harchwilio yn swyddfeydd Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, YR WYDDGRUG, Sir y Fflint CH7 6NB; ac yn swyddfa Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru, Ty Hastings, Llys Fitzalan, CAERDYDD, CF24 0BL.

Mae trefniadau’n cael eu gwneud hefyd i roi copïau o’r adroddiad ymhob llyfrgell gyhoeddus yn Sir y Fflint. Mae nifer cyfyngedig ar gael, o wneud cais i’r Comisiwn. Mae modd edrych ar yr adroddiad ar wefan y Comisiwn yn ldbc.gov.wales/?lang=cy.

Dylid cyfeirio unrhyw sylwadau pellach ynghylch y materion yn yr adroddiad at Lywodraeth Cymru. Dylid eu gwneud mor fuan ag y bo modd a, sut bynnag, erbyn 10 Tachwedd 2015 fan bellaf. Dylid cyfeirio sylwadau at y Tîm Democratiaeth, Amrywiaeth a Chydnabyddiaeth Ariannol, Yr Isadran Democratiaeth Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

 


STEVE  HALSALL

Prif Weithredwr