Astudiaeth Naws am Le

Mae Cyngor Tref yr Wyddgrug, Cittaslow Yr Wyddgrug, Cyngor Sir y Fflint a Chadwyn Clwyd yn cydweithio i baratoi ‘Gweledigaeth’ o’r Wyddgrug, sy’n cael ei ariannu’n rhannol gan Cynllun Datblygu Gwledig Cymru yr UE a Llywodraeth Cymru.

Lansiwyd prosiect i greu rysáit ar gyfer dyfodol ffyniannus i’r Wyddgrug yng Ngwyl Bwyd a Diod y dref ym mis Medi 2009. Y cam cyntaf oedd darbwyllo trigolion lleol i roi’r Wyddgrug dan y microsgop trwy nodi beth sydd orau ynghylch y Dref, y gyntaf yng Nghymru i ymuno â Chittaslow, rhwydwaith rhyngwladol o drefi bach sy’n ymroddi i wella ansawdd eu hamgylchedd.

Cyflwynwyd y cynigion hyn ac ymgynghorwyd arnynt yn ddiweddarach y flwyddyn honno, cyn eu hystyried gan y partneriaid i lywio gwaith a buddsoddiad yn ystod y 10 mlynedd nesaf.

Y dyn â gofal dros yr astudiaeth yw Nathan Blanchard, Cyfarwyddwr Heritage Initiatives, a gyfarwyddodd Fenter Treftadaeth Treflun wobrwyol i adfywio eiddo hanesyddol yn Ninbych. Mae ei dîm yn cynnwys arbenigwyr ar adfywio canol trefi, dylunio trefol a datblygu. Mae’r prosiect hwn yn mynd llawer pellach yn ôl Nathan: “Ei fwriad yw sicrhau llwyddiant y dref yn y dyfodol ac, er mwyn hynny, mae angen i ni sicrhau cefnogaeth y trefolion. Mae gan yr Wyddgrug lawer iawn o’i phlaid a rhai canolbwyntiau o bwys fel Bryn y Beili hanesyddol, ei diwylliant ar ffurf yr awdur Daniel Owen a’i marchnadoedd ffyniannus. Maent i gyd yn ei gwneud yn dref brysur a llwyddiannus sydd wedi llwyddo i wrthsefyll y dirwasgiad fel bod egni a bywiogrwydd yn dal ynghylch yr Wyddgrug”.

Aeth Nathan yn ei flaen: “Mae’r Wyddgrug mewn lle da o ran ffyrdd lleol ac mae ganddi gynnig siopa eang gyda chymysgedd da o siopau annibynnol bach. Mae hynny’n golygu nad yw hi naill ai’n dref anghyfannedd o siopau gwag â phren dros eu ffenestri nag yn dref fel pob un arall gyda’r rhestr arferol o siopau cenedlaethol ar ei Stryd Fawr – mae ganddi rywbeth unigryw i gynnig. Yr hyn sydd angen i ni wneud yw cael pobl leol i gydnabod beth sydd ganddynt a chyfranogi mewn ffyrdd sy’n sicrhau dyfodol llwyddiannus iddi.”

Meddai Keira Derbyshire, Swyddog Prosiect Naws am Le Sir y Fflint: “Rydym eisiau bod yn uchelgeisiol ond rydym eisiau cael gwerth am yr arian hefyd trwy ddod o hyd i newidiadau bach y gallwn eu gwneud i gael effaith fawr. Buom yn gofyn i bobl leol fod yn rhan o hyn trwy nodi beth sy’n gwneud yr Wyddgrug yn arbennig ac ymatebodd pobl trwy ddweud eu barn wrthym ynghylch eu tref.”

Rydym yn chwilio am weledigaeth,” ychwanegodd Nathan Blanchard: “Buom yn gofyn i bobl ystyried ble’r hoffent i’r Wyddgrug fod ymhen deng mlynedd a’r hyn sydd angen i ni wneud fel bod hynny’n digwydd. Rydym eisiau cynnal a hybu’r pethau sydd orau ynghylch yr Wyddgrug, ei busnesau lleol egnïol, ei chyfeillgarwch, ei hadeiladau a mannau cyhoeddus hardd, ei diwylliant a’i hanes. Mae Naws am Le’n arloesol iawn oherwydd trwy edrych ar amrywiaeth mor fawr o faterion gyda’r nod o gynorthwyo a chefnogi busnesau lleol.”

Bydd yr Astudiaeth yn ategu menter Cynllun Gweithredu’r Dref, sy’n cael ei hyrwyddo gan Gyngor Sir y Fflint, ac sy’n ceisio adfywio pob un o saith tref farchnad y Sir. Fe all pawb sydd â diddordeb ym Mhrosiect Naws am Le Cadwyn Clwyd yn yr Wyddgrug gysylltu â Keira Derbyshire ar 01824 705802 neu anfon e-bost ati trwy glicio yma.

Gallwch lawrlwytho Astudiaeth Ymarferoldeb Naws am Le trwy glicio yma (sylwch fod hon yn ffeil fawr 30MB).