Cofnodion ac Adroddiadau

Mae adran hon y wefan yn rhoi cofnodion diweddaraf pob un o gyfarfodydd y Cyngor i chi.

Mae’r holl ffeiliau yma ar ffurf PDF. Os ydych eisiau edrych ar y ffeil ond heb fod â darllenydd PDF,
cliciwch yma i lawrlwytho un.

Defnyddiwch y ddewislen ar yr ochr chwith i gyrraedd y dogfennau perthnasol.

Mae’r Cyngor yn cynnal prif gyfarfod y Cyngor unwaith y mis (ac eithrio Awst a Rhagfyr). Mae gan y Cyngor hefyd bump o bwyllgorau sy’n cyfarfod yn anamlach drwy gydol y flwyddyn, sef Pwyllgorau Personél, Archwiliadau, Cynllunio, y Fynwent a Chymuned, Datblygu ac Adfywio.

MAE CYFARFODYDD CYNGOR TREF YR WYDDGRUG AR AGOR I’R CYHOEDD – A GALLWCH DDWEUD EICH BARN

Mae gan y cyhoedd hawl i fynychu cyfarfodydd misol Cyngor y Dref sy’n cael eu cynnal fel arfer ar nos Fercher olaf pob mis. Caiff dyddiadau cyfarfodydd y Cyngor eu dangos ar yr hysbysfwrdd hwn.

Bydd agenda’r cyfarfod nesaf yn cael ei arddangos ar y bwrdd hysbysiadau yn Neuadd y Dref, ac ar wefan Cyngor y Dref. Mae’r Cyngor yn gobeithio y bydd gymaint o’r cyhoedd ag y bo modd yn manteisio ar y cyfle i fynychu.

Bydd trigolion yr Wyddgrug yn gallu siarad yn ystod sesiwn 15 munud yn union cyn cyfarfodydd Cyngor y Dref. Caniateir uchafswm o 5 munud yr un neu fesul pwnc (os bydd mwy nag un yn dymuno siarad ar un mater).

Rhaid i bawb sydd am siarad yng nghyfarfod y Cyngor roi rhybudd i’r Clerc erbyn 4.30pm ar y dydd Mawrth o’r wythnos cyn y cyfarfod. Mae rhagor o fanylion am hyn neu unrhyw agwedd ar fusnes y Cyngor i’w cael o’r swyddfa ar lawr cyntaf Neuadd y Dref.