Y Fynwent

Cyngor Tref yr Wyddgrug sy’n rheoli ac yn cynnal yr unig safle claddu gweithredol cyfredol yn y Dref. Mae’r Fynwent yn Ffordd Alexandra, Yr Wyddgrug ac mae’n ymestyn dros arwynebedd o 2.20 hectar. Agorwyd y Fynwent yn 1877 ac, ers hynny, bu rhyw 8350 o angladdau (claddedigaethau ac amlosgiadau).

Rheolaeth
Mae Cyngor y Dref yn dirprwyo rheolaeth y Fynwent i Bwyllgor o chwech o Gynghorwyr sydd â’r pwer i weithredu ac i newid polisïau claddu. Caiff cofnodion cyfarfodydd Pwyllgor y Fynwent eu hysbysu i gyfarfod dilynol Cyngor y Dref.

Mae Cyngor y Dref yn ymfalchïo’n fawr yng ngolwg y Fynwent ac mae’n cyflogi dau aelod o staff llawn-amser i’w chynnal ac i oruchwylio claddedigaethau. Yn ogystal, caiff cymorth tymhorol dros dro a chymorth achlysurol ei ddarparu yn ôl yr angen er mwyn sicrhau bod y tiroedd yn cael eu cynnal i safon sy’n weddus i fan coffa a theyrnged

Rheoliadau’r Fynwent a Ffïoedd Claddu
Bydd Pwyllgor y Fynwent yn adolygu’n rheolaidd y Rheoliadau sy’n llywodraethu claddedigaethau ym Mynwent yr Wyddgrug. Cliciwch yma i weld
Rheoliadau’r Fynwent neu cliciwch yma i weld y Ffïoedd Claddu.

Chwilio am Gladdedigaethau / Beddi

Os hoffech holi ynghylch lleoliad bedd perthnasau neu wybodaeth am gladdedigaeth, anfonwch gais ysgrifenedig, gan roi gymaint o fanylion ag y gallwch, ynghyd â’r taliad i:

Uwcharolygydd y Fynwent

Porthdy’r Fynwent

Mynwent yr Wyddgrug

Ffordd Alexandra

Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 1HJ

 

Mae taliad o £20.00 am bob chwiliad fesul bedd neu deulu. 

Mae modd talu trwy siec daladwy i “Cyngor Tref yr Wyddgrug”, neu drosglwyddiad BACS (manylion wrth ymholi). Cofiwch ganiatáu hyd at 7 diwrnod gwaith am bob chwiliad.

Prynu beddau o flaen llaw - sylwch nad oes modd prynu beddau o flaen llaw.

Cysylltiadau
Uwcharolygydd y Fynwent: Matthew Williams-Cooke
Y Porthdy, Mynwent yr Wyddgrug, Ffordd Alexandra, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. CH7 1HJ Ffôn: 01352 753820

Clerc a Swyddog Cyllid: Jo Lane
Neuadd y Dref, Ffordd yr Iarll, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 1AB Ffôn: 01352 758532