Cittaslow LogoCittaslow Yr Wyddgrug

 

Y dref gyntaf yng Nghymru i gyflawni statws Cittaslow, mae gan yr Wyddgrug gymuned gref o wirfoddolwyr ymroddedig yn gweithio i wella ansawdd bywyd y trigolion.

Mae trefi Cittaslow yn llewyrchu. Unigryw, bywiog a ffyniannus, rydym yn cadw ein delweddau pendant yn wyneb unffurfedd byd-eang. Mae gwella ansawdd bywyd mewn tref yn grefft; sut ddaw’r gymuned at ei gilydd er lles pawb i gynhyrchu brwdfrydedd sy’n cael ei deimlo gan drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd. Ein nodau yw hyrwyddo agwedd gyfannol sy’n nerthu cymunedau ac yn creu gwell bywyd bob dydd i bawb. Dyma fydd ein hetifeddiaeth i’r cenedlaethau a ddaw.

Mae Cittaslow Yr Wyddgrug yn cynnwys llawer o fudiadau ac unigolion lleol, ac mae’n cael cefnogaeth Cyngor Tref yr Wyddgrug. Mae gennym dri is-grwp Cittaslow Yr Wyddgrug

Polisi Amgylcheddol - sydd â diddordeb ym maen prawf ‘A’ aelodaeth Cittaslow o gwmpas materion amgylcheddol

Gofod a Lle - sy’n cwmpasu maen prawf ‘B’ aelodaeth Cittaslow ar isadeiledd a maen prawf ‘C’ ar ansawdd adeiledd trefol

Cynnyrch Lleol a Chymuned - sy’n cwmpasu maen prawf ‘D’ aelodaeth ar gefnogi cynnyrch a chynhyrchu lleol, maen prawf ‘E’ ar groeso a chymuned a maen prawf ‘F’ ar greu ymwybyddiaeth Cittaslow

http://cittaslowmold.co.uk/

https://www.facebook.com/CittaslowMold