Swyddi

SWYDDOG CYFLEUSTERAU– CYNGOR TREF YR WYDDGRUG

20 awr yr wythnos | SCP 7–12 (£25,584 – £27,711 pro rata, yn dibynnu ar brofiad)
Bydd angen gweithio’n hyblyg, yn cynnwys rhai nosweithiau a phenwythnosau.

Dyddiad Cau: Hanner nos Dydd Gwener 30 Ionawr 2026

Mae Cyngor Tref yr Wyddgrug yn chwilio am Swyddog Cyfleusterau dibynadwy ac ymarferol sy’n teimlo balchder mewn cadw adeiladau, mannau cyhoeddus ac asedau cymunedol yn ddiogel, glân ac wedi eu cynnal yn dda. Os ydych yn ymarferol a threfnus a ddim yn ofni tasgau heriol, mae hon yn rôl lle bydd eich gwaith yn gwneud gwahaniaeth gweladwy bob dydd.

Gair am y Rôl

Byddwch yn gyfrifol am ofalu am adeiladau a chyfleusterau’r Cyngor o ddydd i ddydd, yn cynnwys gwneud gwaith glanhau, atgyweiriadau sylfaenol, gwiriadau diogelwch, dyletswyddau cloi/datgloi a chefnogi digwyddiadau a threfniadau archebu ystafelloedd. Mae’r rôl hefyd yn ymwneud â thasgau cydymffurfio arferol, cydlynu contractwyr a chynnal a chadw asedau cymunedol allanol fel meinciau, hysbysfyrddau, arwyddion a diffribilwyr.

Mae hon yn swydd weithgar ac amrywiol sy’n mynd â chi ar draws nifer o safleoedd y Cyngor – dan do ac yn yr awyr agored, ymhob tywydd – a chi fydd un o’r bobl allweddol sy’n sicrhau bod popeth yn ddiogel, taclus ac yn barod i’w ddefnyddio.

Mae hon yn rôl gorfforol sy’n cynnwys gwaith llaw dan do ac yn yr awyr agored. Darperir cyfarpar diogelwch personol. Disgwylir rhywfaint o waith tu allan i oriau, gyda rhybudd.

Gofynnwch am becyn ymgeisio townclerk@moldtowncouncil.org.uk

I ofyn am becyn ymgeisio neu os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Jo Lane ar 01352 751819 neu townclerk@moldtowncouncil.org.uk

Disgrifiad swydd 

Ffurflen gais