Gwasanaeth Sul y Cofio yr Wyddgug
Dydd Sul 13 Tachwedd 2022
Bydd Gwasanaeth Sul y Cofio yr Wyddgug yn cael ei gynnal y tu allan i Fryn y Beili ar ddydd Sul 13 Tachwedd ac mae croeso i gynrychiolwyr y sefydliadau Arfog a’r rhai Mewn Ffurfwisg, aelodau Cyngor y Dref a’r cyhoedd ddod yno i ddangos eu parch. Bydd y gwasanaeth yn dechrau am10.50am.
Hefyd, fe gynhelir Gwasanaeth Coffa yn Eglwys y Santes Fair am 10am a byddai’r Parchedig Martin Batchelor yn falch dros ben o groesawu pawb sy’n dymuno mynd i’r gwasanaeth yn yr Eglwys, cyn ymgynnull ym Mryn y Beili.
Byddwch cystal â sylwi y bydd y ffyrdd o amgylch ardal Bryn y Beili ar gau o 10.00am tra bydd y gwasanaeth yn cael ei gynnal. Bydd y ffyrdd ar gau fel a ganlyn: y B5444 o’i chyffordd â Shire View, cyffordd Stryd Milford – y Stryd Fawr, cyffordd Ffordd Clayton – y Stryd Fawr. Bydd staff yn bresennol wrth y ffyrdd sydd ar gau a bydd mynediad ar gael ar gyfer cerbydau argyfwng yn unig.
Dydd Gwener 11 Tachwedd am 11am – bydd Cyngor Tref yr Wyddgrug yn cynnal dista-wrwydd 2 munud ar Sgwâr Daniel Owen ar ddydd Gwener 11 Tachwedd, ac mae croeso i’r cyhoedd fod yn bresennol.
Mae pabïau, pinnau a chroesau ar gael yn swyddfa Cyngor y Dref (i fyny’r grisiau yn Neuadd y Dref), a bydd yr holl roddion ariannol yn cael eu rhoi i’r Lleng Brydeinig.
----------------------------------------------------------------------------------------------------
Datganiad i’r Wasg 23 Mawrth 2020
Coronafeirws (COVID-19)
Yn y sefyllfa genedlaethol a rhyngwladol anodd hon sy’n datblygu’n gyflym rydym yn adolygu’r trefniadau ar gyfer cyflenwi gwasanaethau’r Cyngor bob dydd.
Ni allwn ddal i weithredu mewn ffordd ddiogel a chall lle mae cyswllt wyneb yn wyneb, a’r firws yn bygwth staff a Chynghorwyr. Rydym yn edrych ar y cyngor Iechyd Cyhoeddus a chyfarwyddebau’r Llywodraeth ar sut allwn ni barhau wrth geisio atal gwasgariad y feirws.
Cyfarfodydd Ar unwaith caiff pob cyfarfod yng Nghyngor Tref yr Wyddgrug ei ganslo.
Digwyddiadau Caiff holl ddigwyddiadau hyd at ganol haf eu canslo.
Swyddfeydd Neuadd y Dref Ni fydd unrhyw fynediad i Neuadd y Dref a’r swyddfeydd heblaw i gyflogeion ac ymwelwyr awdurdodedig nes clywir yn wahanol.
Staff Fe all staff fod yn y swyddfa, yn gweithio gartref neu’n hunan-ynysu gan ddibynnu ar yr amgylchiadau.
Bydd y mesurau hyn yn cael eu hadolygu’n rheolaidd a’u newid fel y bo’n briodol.
Fe allwch ddal i gysylltu â Chyngor y Dref dros y ffôn neu drwy e-bost.
Ian D Jones ACIS, B A (Hons), CiLCA
Clerc y Dref / Town Clerk
Swyddog Cyllid / Finance Officer
Ffôn/phone 01352 751819
townclerk@moldtowncouncil.org.uk