Ddrafft o Gynllyn Tref yr Wyddgrug

CYNLLUN TREF

YR WYDDGRUG 2017-2030




Mewn cyfarfod arbennig o Gyngor Tref yr Wyddgrug ddydd Mercher 15fed Mawrth, cymeradwywyd a mabwysiadwyd Cynllun y Dref gan yr aelodau. Hefyd yn bresennol yn y cyfarfod oedd Mr John Reynolds, Cadeirydd Fforwm Busnes yr Wyddgrug a chynrychiolydd y Grŵp Llywio gwreiddiol. Croesawyd y Cynllun rhagorol sy’n cwmpasu popeth oedd yn pryderu Cyngor y Dref a’r gymuned.


Ers ffurfio’r grŵp llywio am y tro cyntaf yn ôl ar ddechrau 2015, roedd Cyngor Tref yr Wyddgrug yn awyddus i gefnogi cynhyrchu Cynllun Tref yr Wyddgrug. Teimlai Cyngor y Dref y byddai’n rhoi cyfle rhagorol i’r gymuned gyfan fynegi barn ynghylch sut ddylai’r Wyddgrug ddatblygu yn y dyfodol. Mae Cynllun y Dref ar ei ffurf orffenedig yn disgrifio sut fyddai pobl sy’n byw ac yn gweithio yma’n hoffi i’r gymuned ddatblygu, mae’n nodi cyfleusterau a gwasanaethau allweddol ac mae’n cyflwyno’r materion sydd angen sylw os yw’r dref i gael ei gwella i holl drigolion yn ôl y blaenoriaethau a ddewiswyd. Bydd y Cynllun yn offeryn defnyddiol i Gyngor y Dref oherwydd ei fod yn cynrychioli llais cyfunol ein hetholwyr, a bydd yn cael ei adolygu’n gyfnodol i sicrhau ei fod yn aros yn berthnasol. Bydd y Cynllun yn cael ei ddefnyddio hefyd i ddylanwadu ar Gynllun Datblygu Lleol eginol Cyngor Sir y Fflint.


 


Hoffai Cyngor y Dref a’r Grŵp Llywio ddiolch i’r holl randdeiliaid a dreuliodd amser yn ymateb yn ystod yr achlysuron ymgynghori. Mae gwybodaeth am yr ymateb a gafwyd ac ymatebion y Grŵp Llywio, ynghyd â Chynllun y Dref ar ei ffurf derfynol i’w cael yma. Fel arall, mae modd gweld copïau o’r Cynllun yn y mannau canlynol:


 


  • Cyngor Tref yr Wyddgrug, Neuadd y Dref, Ffordd yr Iarll, Yr Wyddgrug

  • Y Llyfrgell, Sgwâr Daniel Owen, Yr Wyddgrug

  • Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug


 Cynllyn Tref yr Wyddgrug 2017-2030

 




 

 

 

 

Clerc y Dref, Cyngor Tref yr Wyddgrug, Neuadd y Dref, Ffordd yr Iarll, Yr Wyddgrug, CH7 1AB neu trwy e-bost i townclerk@ moldtowncouncil.org.uk