Sefydliadau Eraill


Cyngor Sir y Fflint - http://www.flintshire.gov.uk/
Cymdeithas Dwristiaeth Sir y Fflint -
http://www.visitflintshire.com/
Theatr Clwyd -
http://www.clwyd-theatr-cymru.co.uk/
Cyngor Sir y Fflint -
http://www.flintshire.gov.uk/
Gwefan Ymwelwyr Bryniau Clwyd -
http://www.clwydianrange.co.uk/
Gwefan Loggerheads -
http://www.loggerheads-wales.co.uk/
Gwefan Ymwelwyr y Gororau -
http://www.borderlands.co.uk/

 

Marchnad y Ffermwyr yn Dod i’r Wyddgrug

Wedi llwyddiant Marchnad y Ffermwyr yng Ngholeg Garddwriaeth Cymru yn Llaneurgain ar drydydd dydd Sul pob mis ers wyth mlynedd mae Marchnad Ffermwyr Celyn bellach yn cynnal Marchnad Ffermwyr ychwanegol yn yr Wyddgrug.

Erbyn hyn mae Marchnad Ffermwyr yr Wyddgrug yn cael ei chynnal ar Sadyrnau cyntaf a thrydydd y mis o 9am i 2pm yn Neuadd Eglwys y Santes Fair, Heol y Brenin, ger yr orsaf fysiau a gyda pharcio ym meysydd parcio Heol y Brenin a Love Lane.

Ym Marchnad Ffermwyr yr Wyddgrug mae dewis llawn o gynhyrchion bwyd lleol, i gyd yn cael eu gwerthu gan y cynhyrchwyr neu rywun sy’n ymwneud â’r gwaith fel bod cwsmeriaid yn gallu holi sut gaiff y llysiau eu tyfu neu’r anifeiliaid eu magu. Daw’r rhan fwyaf o’r cynnyrch o fewn cylch o 20 milltir – sy’n lleihau pellter symud bwyd, llygredd byd-eang a thagu ffyrdd.

Ymhlith yr amrywiaeth o stondinau mae cig eidion, cig moch, cig oen, cig ychen gwyllt, selsig ac eidionod gwobrwyol, bara, caws cartref, mêl Cilcain, ffrwythau, suddion ffrwythau a llysiau o Gilgwri a Sir Gaer, pasteiod a theisenni cartref, cig organig, llysiau ac wyau, cwrw lleol a chynhyrchion trwy fwg.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â John Sigsworth ar 01352 780394