Marchnadoedd yr Wyddgrug

Gallery Photo
Gallery Photo
Gallery Photo
Gallery Photo
Gallery Photo

Mae’r Wyddgrug yn falch o fod yn gartref y farchnad stryd fwyaf a gorau sy’n dal yn y Gogledd ac mae’n cael ei pharchu’n fawr gan fasnachwyr a siopwyr fel ei gilydd am amrywiaeth y nwyddau sydd ar gael ochr yn ochr â’i chroeso cynnes Cymreig traddodiadol.

Caiff marchnadoedd eu cynnal ar y stryd yn yr Wyddgrug bob dydd Mercher a dydd Sadwrn drwy gydol y flwyddyn gyda mwy na 70 o stondinau yn y Stryd Fawr a thrwodd i Sgwâr Daniel Owen. Mae amrywiaeth enfawr o gynnyrch gan gynnwys ffrwythau a llysiau ffres, caws, cig, llestri, dillad a phlanhigion – beth bynnag sydd arnoch ei angen, byddwch yn cael hyd iddo yn y farchnad!

Hefyd mae marchnad dan do ffyniannus ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn gydag amrywiaeth eang o stondinau.

Mae gan Farchnad y Ffermwyr ddewis mawr o fwyd ffres, diod a chrefftau amaethwyr lleol a chrefftwyr medrus. Mae’r Farchnad Anifeiliaid yn un o’r ychydig iawn o farchnadoedd anifeiliaid traddodiadol y DU sy’n dal i weithredu ynghanol y dref. Gallwch gael profiad mewn gosodiad clasurol o’r arwerthwr “côt wen” yn gwerthu gwartheg a defaid a faged yng Nghymru.

Manylion

Marchnadoedd Stryd – bob dydd Mercher a dydd Sadwrn (rhwng 9.00am a 3.30pm) drwy gydol y flwyddyn, gyda 70 a mwy o fasnachwyr ar y Stryd Fawr a thrwodd i Sgwâr Daniel Owen.

Y Farchnad Dan Do – dewis o 16 siopau unigol i gyd dan un to, ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 9.00am i 5.00pm ac yng Nghanolfan Siopa Daniel Owen.

Marchnad y Ffermwyr – sy’n cael ei chynnal yn Neuadd Eglwys y Santes Fair yn Heol y Brenin o 9.00am i 2.00pm, dydd Sadwrn 1af a 3ydd pob mis. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â John Sigsworth ar 01352 780394

Y Farchnad Anifeiliaid – sy’n gweithredu o farchnad anifeiliaid canol y dref ar Heol y Brenin bob bore Llun a Gwener.

Mae modd trefnu ymweliadau arbennig trwy J. Bradburne Price & Co, Stryd Caer, Yr Wyddgrug. CH7 1EE. Ffôn: 01352 753873, ebost
: contact@jbradburneprice.com


F