Hanes yr Wyddgrug yn Gryno

Aerial view of Bailey Hill

Golygfa o Fryn y Beili o’r awyr

Sefydlwyd tref yr Wyddgrug fel anheddiad yn nyddiau’r Normaniaid ac mae olion y castell tomen a beili’n dal i’w gweld ar ben Bryn y Beili, y safle cryf yn strategol sy’n edrych dros Ddyffryn Alun.

Ystyr yr Wyddgrug yw’r Tomen. Yn ôl pob tebyg, daw’r enw Mold o Ffrangeg Normanaidd Mont haut, sef ‘bryn uchel’.

Yn fuan ar ôl 1100, adeiladodd Robert, arglwydd mers Normanaidd Moldsdale, gastell iddo’i hun ar y mwyaf o’r marianau rhewlifol sydd yma ac acw yn y dyffryn. Wedi hynny, cymrodd enw ei gadarnle newydd a daeth i ddwyn yr enw Robert de Mont Haut. Llithrodd Mont Haut yn Mohault, yna Moald (a gofnodwyd yn 1284) ac yn y diwedd yn Mold erbyn 1561.

Roedd ffurf y bryn yn afreolaidd a daeth y ddwy ardal fwy gwastad yn ‘feilïau’ neu fuarthau caerog. Yn y pen gogleddol gwnaed y marian naturiol yn uwch i ffurfio ‘tomen’ i godi twr neu gastell bach arni. Cafodd yr ardal gyfan ei galw’n ‘Fryn y Beili’ er y byddai ‘Castell yr Wyddgrug’ yn enw cywirach efallai.

Un o feibion enwocaf yr Wyddgrug yw Daniel Owen, a oedd nid yn unig yn awdur o fri ond a weithiodd yn galed hefyd dros bobl yr Wyddgrug. Yn 1894 cafodd ei ethol yn Gadeirydd cyntaf Cyngor Dosbarth Trefol yr Wyddgrug oedd newydd ei ffurfio
.

Daniel Owen Statue

Cerflun Daniel Owen

Mae cerflun Daniel Owen yn sefyll yn Sgwâr Daniel Owen ar Ffordd yr Iarll. Ganed Daniel Owen yn yr Wyddgrug yn 1836, yr ieuaf o chwech o blant. Pan oedd yn faban bach, boddwyd ei dad a dau o’i frodyr mewn damwain ym mhwll glo Argoed, a chafodd ei fagu mewn tlodi mawr. Cafodd ei brentisio i Angel Jones, teiliwr lleol. Er iddo dreulio peth amser yng Ngholeg y Bala, lle dechreuodd hyfforddi i ddod yn weinidog yr efengyl, wnaeth o ddim gorffen ei astudiaethau a dychwelodd i’w dref enedigol i sefydlu ei fusnes ei hun fel dilledydd a theiliwr. Roedd wedi bod â diddordeb brwd mewn llenyddiaeth ers ei ddau ddegau cynnar a chyhoeddodd gyfrol o bregethau yn 1879. Yn ystod y blynyddoedd a ddilynodd, ysgrifennodd gyfres o nofelau poblogaidd a chyfreswyd llawer ohonynt yn y cylchgronau enwadol.

Ef sy’n cael y clod am ddechrau traddodiad y nofel Gymraeg, gyda Rhys Lewis yn cael ei chydnabod yn aml fel y nofel gyntaf a ysgrifennwyd yn y Gymraeg. Dylanwadodd ar lawer o nofelwyr diweddarach, fel Kate Roberts a T. Rowland Hughes. Caiff ei ystyried yn un o nofelwyr mwyaf y Gymraeg. Ymysg ei weithiau enwocaf mae ‘Y Dreflan’ (1881), ‘Rhys Lewis’ (1885), ‘Enoc Huws’ (1891), ‘Gwen Tomos’ (1894) a Straeon y Pentan (storïau byrion) (1895).

Mae’r Wyddgrug yn enwog hefyd fel cartref ‘Mantell Aur yr Wyddgrug’. Cafwyd hyd i’r Fantell Aur mewn darnau gan lafurwyr ym Mryn yr Ellyllon ger Ffordd Caer, yr Wyddgrug yn 1833 ynghyd ag esgyrn dyn a gleiniau gwefr. Daeth darnau coll o’r fantell i’r amlwg drwy’r blynyddoedd, yr un diwethaf ond 10 mlynedd yn ôl.

Cafwyd hyd i’r fantell wedi’i malu a’i thorri a chafodd ei hatgyweirio trwy ddefnyddio technoleg a ailddyfeisiwyd i ailosod y 15% o’r metel oedd ar goll. Mae’n dyddio rhwng 1900CC a 1600CC.

Mold Gold Cape

'Mantell Aur yr Wyddgrug''

Gwnaed o aur 23 carat, mae’n pwyso un cilogram ac fe’i crëwyd o un ingot o aur a’i haddurno gyda gwrymiau a boglynnau sy’n rhoi’r argraff o frethyn plygedig. Y gred yw ei bod yn ddilledyn a wisgwyd ar gyfer defodau crefyddol. Byddai’n cael ei gwisgo dros ysgwyddau, breichiau uchaf a chorff y gwisgwr, a fyddai wedi gorfod cael cymorth i’w gwisgo ac, unwaith y byddai wedi’i gwisgo, byddai symudiad y breichiau’n gyfyngedig dros ben.

Tra bo’r fantell wreiddiol yn yr Amgueddfa Brydeinig, mae copi i’w weld yn y ganolfan treftadaeth uwchben Llyfrgell yr Wyddgrug. Mae carreg yn wal ty gerllaw ar Ffordd Caer yn nodi’r fan lle cafwyd hyd i’r fantell
.