Gwasanaethau Dinesig

 Rememberence LogoGwasanaeth Sul y Cofio 2019
Dydd Sul 10eg Tachwedd 2019 Eglwys Blwyf y Santes Fair, Yr Wyddgrug gorymdaith am 9.30am, Gwasanaeth Eglwysig am 10.00am yn cael ei ddilyn gan orymdaith at Senotaff y Dref a’r 2 funud distaw am 11.00am

 

Bydd Band Cyngerdd Tref yr Wyddgrug yn arwain Gorymdaith flynyddol ein Gwasanaeth Coffa gyda chynrychiolwyr y lluoedd ac Aelodau Cyngor Tref yr Wyddgrug am 9.30am, i fyny’r stryd fawr at Eglwys y Santes Fair, fel gweithred goffa a theyrnged i feirwon y ddau Ryfel Byd a’r amrywiol ryfeloedd y bu’r gwledydd hyn yn rhan ohonynt ers 1945. Bydd y Gwasanaeth Eglwysig yn dechrau am 10.00am ac mae’n agored i bawb.

Yn dilyn y gwasanaeth bydd yr orymdaith yn ymgynnull ac yn ymdeithio at Senotaff y Dref a’r Ardd Goffa gyda’r gynulleidfa’n dilyn. Yno byddant yn ymuno ag eraill ar gyfer y Ddefod Goffa gyda’r ddau funud distaw’n cael ei gadw am 11.00am.

Mae’r Ardd Goffa, a gysegrwyd yn 1951, yn galluogi inni fynegi, trwy osod croesau a thorchau, ein coffa diolchgar a balch o’r rhai a fu farw mewn rhyfeloedd dros ein gwlad a’i gwerthoedd
Remberence PhotoRememberence Photo