5-8 Ebrill Glanhau Mawr yr Wyddgrug
Roedd Glanhau Mawr 2018 yn llwyddiannus iawn gyda mwy na 720 o wirfoddolwyr yn cymryd rhan yn ystod pedwar diwrnod yr achlysur, gan gynnwys llawer o fusnesau newydd yn mynd ati. Casglwyd dros 280 o sachau sbwriel hefyd.
Nod Glanhau Mawr yr Wyddgrug yw gwneud amgylchedd y dref yn ddymunol i fyw, gweithio a chwarae ynddo, a chreu balchder cymunedol i bawb.
Yn dilyn llwyddiant blynyddoedd blaenorol, mae’r trefnyddion yn gobeithio y bydd mwy fyth o aelodau’r gymuned leol yn cymryd rhan, ac yn gweld mai hon yw’r flwyddyn orau eto.
Mae gwirfoddolwyr yn cynrychioli holl rannau’r gymuned yn ymwneud â Glanhau Mawr yr Wyddgrug bob blwyddyn gan gynnwys ysgolion, grwpiau lleol, busnesau a thrigolion yr Wyddgrug.
Yn ystod y glanhau mawr, caiff gwirfoddolwyr eu hanfon allan mewn grwpiau i roi sglein ar y dref. Bydd gwelliannau’n cynnwys casglu sbwriel, clirio llwybrau troed a thacluso gwelyau blodau gyda chyfleoedd i bawb gymryd rhan.
Cofiwch gyfranogi a chynorthwyo gwneud yr achlysur hwn yn fwy ac yn well nag o’r blaen. I weld sut allwch gymryd rhan naill ai fel unigolyn neu fel grwp, ffoniwch: 01352 758532 neu e-bostio: supportofficer@moldtowncouncil.org.uk
Peidiwch ag anghofio bod ar Springy eich angen chi!