Gwyl Bwyd a Diod

Dydd Sadwrn 21 a dydd Sul 22 Medi 2019, Maes Parcio Stryd Newydd, Yr Wyddgrug

Mae’r Wyl ar agor o 10am i 5pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul. Mae’r cwrt bwydydd awyr agored yn aros ar agor tan tua 8pm ar ddydd Sadwrn, gydag adloniant byw ar y llwyfan hefyd.

Bydd Gwyl Bwyd a Diod yr Wyddgrug yn dychwelyd i’r dref am ei hunfed flwyddyn ar ddeg ym mis Medi ac mae paratoadau ymhell ar y ffordd ar gyfer yr hyn sy’n debygol o fod yn wledd arall o fwyd bendigedig sy’n tynnu dwr o ddannedd, arddangosiadau coginio a cherddoriaeth fyw.

Bydd yr Wyl, sy’n achlysur mwyaf yr ardal ac yn ddyddiad i’w gofio ar galendr y dilynwr bwyd, yn digwydd ar ddydd Sadwrn 21 a dydd Sul 22 Medi yn ei lleoliad arferol, Maes Parcio Stryd Newydd.

Y llynedd heidiodd dros 15,000 o ymwelwyr i’r achlysur deuddydd.

Caiff yr Wyl Bwyd a Diod cael ei threfnu’n annibynnol ar Gyngor y Dref

Manylion cysylltu’r Wyl Bwyd a Diod yw:

Ffôn: 01352 741466
Cadeirydd, e-bost:
info@moldfoodfestival.co.uk
Trysorydd, e-bost:
lindsay@moldfoodfestival.co.uk http://www.moldfoodfestival.co.uk/ https://www.facebook.com/moldfoodfestival https://twitter.com/moldfoodfest