Cystadleuaeth yr Wyddgrug yn ei Blodau 2020
Mae cystadleuaeth yr Wyddgrug yn ei Blodau’n mynd yn rhithwir ac rydym
eisiau i chi rannu eich ffotograffau prydferth o blanhigion, blodau neu
greaduriaid a welwch yn eich gerddi yn ystod Gorffennaf, Awst a Medi 2020.
Cyngor Tref yr Wyddgrug sy’n trefnu Cystadleuaeth yr Wyddgrug yn ei
Blodau ac mae’n agored i holl drigolion, busnesau, mudiadau a grwpiau yma yn yr
Wyddgrug. Bydd cynnig buddugol yn cael ei ddewis bob mis gydag enillydd y
gystadleuaeth at ei gilydd yn cael ei gyhoeddi ar ddiwedd mis Medi.
I gynnig yng nghystadleuaeth yr Wyddgrug yn ei Blodau rydym eisiau i chi
dynnu ffotograph o rywbeth sy’n peri balchder i chi yn eich gardd neu iard
gefn, boed yn llwyn neu ddysglau plannu blodeuol, creu gardd berlysiau,
adeiladu tŷ trychfilod, perffeithio parth blodau gwyllt neu gynnal eich llain
lysiau.
Cynigiwch nawr i ennill gwobrau gwych
- bydd enillwyr misol yn cael
gwerth £25 o Dalebau Yr Wyddgrug Yn Llwyr
- bydd enillydd y
gystadleuaeth at ei gilydd yn cael £100 o Dalebau Yr Wyddgrug Yn Llwyr
Cewch wario Talebau Yr Wyddgrug Yn Llwyr ym musnesau a siopau cyfrannog
yr Wyddgrug.
Mae cynnig yn gyflym a rhwydd, dim ond cyflwyno un ffotograff
a dynnwyd yn eich gardd yn ystod Gorffennaf, Awst neu Fedi 2020 a’i anfon i
Gyngor Tref yr Wyddgrug cyn terfyn amser y mis. Gallwch gyflwyno uchafswm o un
gwahanol ffotograff ymhob mis.
- Mae cystadleuaeth mis
Gorffennaf ar agor o 1 i 28 Gorffennaf
- Mae cystadleuaeth mis Awst
ar agor o 1 i 28 Awst
- Mae cystadleuaeth mis Medi
ar agor o 1 i 28 Medi
Cofiwch gynnwys eich enw, cyfeiriad,
rhif ffôn ac e-bost ynghyd â disgrifiad cryno o’ch ffotograff. Gallwch anfon
cynigion gydag e-bost i events@moldtowncouncil.org.uk i’w hanfon trwy
Weplyfr Cyngor Tref yr Wyddgrug neu drwy’r post i: Cyngor Tref yr Wyddgrug,
Neuadd y Dref, Ffordd yr Iarll, Yr Wyddgrug CH7 1AB. Bydd detholiad o’r
ffotograffau yn y gystadleuaeth yn ymddangos ar Weplyfr Cyngor Tref yr Wyddgrug
bob mis.
Cofiwch ddarllen y rheolau hyn cyn cynnig eich ffotograff.
Y rheolau
- Cewch gynnig un ffotograff
yn unig bob mis
- Rhaid i Gyngor Tref yr
Wyddgrug dderbyn eich cynnig cyn 28ain y mis i’w ystyried ar gyfer
cystadleuaeth y mis hwnnw.
- Rhaid i bob cynnig gynnwys
eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn ac e-bost ynghyd â disgrifiad cryno o’ch
ffotograff (er enghraifft ‘basged grog gyda……. ynddi’ neu ‘fy ngardd
drychfilod a wnaed o…….’)
- Bydd holl gynigion yn cael
eu beirniadu gan y Cynghorydd Teresa Carberry, Maer yr Wyddgrug, y
Cynghorydd Sarah Taylor, y Dirprwy Faer, a ffotograffydd lleol. Bydd
enillwyr yn cael eu hysbysu trwy e-bost neu dros y ffôn ar ôl dechrau’r
mis nesaf.
- Ni fyddwch yn clywed dim os
na ddewiswyd eich ffotograff fel cynnig buddugol.
- Ni fydd cynigion drwy’r post
yn cael eu dychwelodd (oni bai y darparwyd amlen a stamp).
- Trwy gyflwyno cynnig i
gystadleuaeth yr Wyddgrug yn ei Blodau rydych yn cytuno i rannu eich
ffotograff a’ch enw ar gyfryngau cymdeithasol, yn y wasg a/neu gan Gyngor
Tref yr Wyddgrug mewn deunydd hyrwyddo yn y dyfodol a chyhoeddiadau
cysylltiedig â thref yr Wyddgrug a/neu Gystadleuaeth yr Wyddgrug yn ei
Blodau.
