Cyngerdd Mawreddog Elusen y Maer
Dydd Sul 29 Ebrill, Cyngerdd Mawreddog Elusen y
Maer. Noswaith yng nghwmni Dafydd Iwan a’i westeion, Tudur Owen, Hefin Elis a
Gwenan Gibbard; ynghyd â Buzz-Ah! ac enillwyr ysgolion yr Wyddgrug yng
nghystadleuaeth ‘Beth mae Cymru’n ei olygu i mi’. Cyngerdd am 7.30pm yn Theatr
Anthony Hopkins, Theatr Clwyd, tocynnau £20 yr un. Derbyniad VIP am 6.45pm,
tocynnau £5 yr un. At apêl Bryn y Beili Maer yr Wyddgrug. Tocynnau o swyddfa
docynnau Theatr Clwyd 01352 701521 neu’r wefan www.theatrclwyd.com