Gwobrau Sid Matthews
Mae
Gwobrau Cymunedol Sid Matthews yn achlysur blynyddol, agored i enwebeion o’r
gymuned leol ym mis Chwefror 2019.
Mae’r gwobrau, sy’n
cael eu cyflwyno gan Faer y Dref ar ran Cyngor y Dref, er cof am Sid Matthews,
clerc blaenorol y dref, a fu yn y swydd o 1974 i 1988.
Mae modd cynnig
enwebiadau mewn pedwar categori sy’n cwmpasu gwasanaeth gwirfoddol neilltuol
a/neu gamp arbennig yng nghymuned yr Wyddgrug.
Maent yn cynnwys
unigolyn sy’n byw yn y dref, sefydliad seiliedig yn yr Wyddgrug, rhywun ifanc
sy’n byw yn y dref neu sefydliad ieuenctid seiliedig yn yr Wyddgrug.
Bydd Gwobrau
Cymunedol Sid Matthews yn cael eu cyflwyno ar 15eg Mai 2019 yn ystod
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cyngor y Dref.
I gael rhagor o
wybodaeth, cofiwch ffonio Cyngor Tref yr Wyddgrug ar 01352 758532 neu e-bostio
supportofficer@moldtowncouncil.org.uk
Mae modd lawrlwytho
Ffurflenni Enwebu yma: